ATW05 Iechyd Cyhoeddus Cymru

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus | Public Accounts and Public Administration Committee

Teithio Llesol yng Nghymru | Active Travel in Wales

Ymateb gan: Iechyd Cyhoeddus Cymru | Evidence from: Public Health Wales

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol ar gyfer Cymru, a’i gwaith yw amddiffyn a gwella iechyd a llesiant a chael gwared ar anghydraddoldeb iechyd i bobl yng Nghymru. 

Mae’n bleser gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarparu’r cyflwyniad ysgrifenedig hwn i’r ymgynghoriad Teithio Llesol yng Nghymru ar 28 Mawrth 2025. Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol ar gyfer Cymru, a’i gwaith yw amddiffyn a gwella iechyd a llesiant a chael gwared ar anghydraddoldeb iechyd i bobl yng Nghymru. Rydym yn un o’r 11 sefydliad sy’n rhan o GIG Cymru.

Cynllun cyflenwi teithio llesol newydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys unrhyw fylchau canfyddedig yn y ddarpariaeth.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu’r Cynllun Cyflenwi Teithio Llesol, gan gynnwys cynnwys rhai mesurau sy’n ceisio mynd i’r afael â pherygl ar y ffyrdd. Fodd bynnag, er bod y cynllun cyflenwi’n cynnwys cau strydoedd ysgolion a manteision y terfyn cyflymder 20mya ar gyfer teithio llesol, byddai’n fuddiol cynnwys mesurau traffig ehangach; mae ymchwil yn awgrymu y gall gweithredu ymyriadau teithio llesol ochr yn ochr ag atal traffig gynyddu eu heffaith yn sylweddol. Byddai’r Cynllun Cyflenwi Teithio Llesol felly’n elwa o strategaeth fwy cynhwysfawr ar gyfer mesurau ehangach i reoli’r galw am draffig ledled Cymru yn elfen graidd i gymell teithio llesol ymhellach a mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r Cynllun Cyflenwi Teithio Llesol yn tynnu sylw at ddibyniaeth dulliau hunanasesu yn rhan o ddatblygiad parhaus gweithgareddau gwerthuso a monitro. Er bod hyn yn ddealladwy oherwydd y pwysau presennol o ran adnoddau a chapasiti yn y system teithio llesol, dylid dal i ystyried rhai elfennau cyflenwi penodol o’r cynllun i’w gwerthuso’n annibynnol. Gellid ymgymryd â'r gweithgaredd gwerthuso annibynnol hwn ar lefel rhaglen. Er enghraifft, gwerthuso proses sy’n archwilio profiadau awdurdodau lleol o ran cyflenwi yn erbyn y Cynllun Cyflenwi Teithio Llesol a sut y datblygwyd y penderfyniadau gwariant sydd ar gael ar gyfer teithio llesol ledled Cymru.

Nid yw’r Cynllun Cyflenwi Teithio Llesol yn cynnig yr eglurder ynghylch sicrwydd ariannu hirdymor y tu hwnt i’r adolygiad presennol o wariant: Mae’r cynllun yn nodi’r dyhead i gynnal buddsoddiad y Gronfa Teithio Llesol ar y lefelau presennol o leiaf, yn amodol ar yr adolygiad nesaf o wariant. Gallai’r ansicrwydd hwn ynghylch cyllid y Gronfa Teithio Llesol yn y dyfodol lesteirio gwaith cynllunio hirdymor a gwaith darparu rhaglenni teithio llesol uchelgeisiol, parhaus, yn enwedig ar lefel systemau teithio llesol a strategol. 

Byddai cynnwys mwy o fanylion am fynd i'r afael â rhwystrau penodol ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, megis pobl anabl neu bobl sy'n byw gyda chyflyrau tymor hir sy'n cyfyngu ar fywyd yn fuddiol i’r Cynllun Cyflenwi Teithio Llesol. Er bod y cynllun yn cydnabod yr angen i ddeall a mynd i’r afael â’r rhwystrau a wynebir gan bobl â nodweddion gwarchodedig, byddai cynnwys camau gweithredu mwy penodol, strategaethau cynhwysfawr a thargedau ar gyfer cynyddu teithio llesol ymhlith y grwpiau hyn yn fuddiol. 

 

Cyfleoedd i brif ffrydio ystyriaethau teithio llesol yn well mewn polisïau a rhaglenni ehangach.

 

Rydym yn cytuno y dylid canolbwyntio ar sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu cymryd i wella’r broses o brif ffrydio ystyriaethau teithio llesol mewn polisïau a rhaglenni ehangach. Gellir cyflawni hyn drwy feithrin cydweithredu rhwng sectorau allweddol megis iechyd, addysg, a thrafnidiaeth i greu synergeddau sy’n hybu teithio llesol.  

Mae angen i Gymru barhau i wneud ystyriaethau teithio llesol yn rhan annatod o fframweithiau polisi ehangach. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau gweithredu ar newid hinsawdd, strategaethau iechyd y cyhoedd, a rhaglenni datblygu economaidd. Ond mae angen canolbwyntio mewn modd cliriach ar sut y bydd yr ymrwymiadau hyn yn arwain at weithredu ar lefel leol (pwynt a godwyd gan adroddiad Archwilio Cymru). Bydd hyn yn sicrhau dull holistaidd o hyrwyddo teithio llesol ledled Cymru, gan fanteisio ar agendâu a nodau a rennir. Gall hyn sicrhau manteision ar ffurf teithio llesol gwell a chanlyniadau eraill a ddymunir gan y system.

Mae gan y sector datblygu rôl hollbwysig i’w chwarae mewn teithio llesol, o ystyried ei ddylanwad sylweddol ar le. Mae angen inni felly sicrhau bod teithio llesol yn ystyriaeth graidd mewn prosiectau cynllunio a datblygu trefol. Mae hyn yn cynnwys gorfodi cynnwys seilwaith cerdded a beicio mewn datblygiadau newydd a phrosiectau ôl-osod mawr, a sicrhau bod datblygwyr yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod ffyrdd a strydoedd yn hybu cerbydau’n teithio’n arafach. 

Gall gwahanol fathau o asesiadau o’r effaith statudol ac anstatudol wella’r broses o gynnwys ystyriaethau teithio llesol mewn polisïau a rhaglenni ehangach. Er enghraifft, mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, sy’n anstatudol ar hyn o bryd, yn archwilio penderfynyddion iechyd ehangach, gan gynnwys gweithgarwch corfforol a chyfleoedd i ymgysylltu. Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn helpu i nodi a yw goblygiadau teithio llesol wedi’u hystyried yn ddigonol yn y polisi a phwy allai elwa neu fod dan anfantais oherwydd yr effeithiau hyn. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddylanwadu ar newidiadau polisi neu raglen yn seiliedig ar ganlyniadau’r asesiad, a thrwy hynny wella cyfleoedd teithio llesol i bawb. Yn yr un modd, dylai Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, sy’n statudol, nodi sut y gall y polisi neu’r rhaglen effeithio’n anghymesur neu’n wahanol ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig. Mae hyn fel arfer yn cynnwys ystyried sut efallai bod opsiynau teithio a mynediad wedi’u heffeithio.

Un enghraifft o sut y gellir prif ffrydio ystyriaethau teithio llesol mewn polisïau a rhaglenni ehangach yw’r Dull Ysgol Gyfan Bywiog Bob Dydd o ran Gweithgarwch Corfforol. Nod y rhaglen hon yw gwella cyfleoedd i wneud gweithgareddau corfforol cyn, ar ôl ac yn ystod y diwrnod ysgol, gyda theithio llesol yn un o’r wyth maes a nodwyd ar gyfer gweithredu. Mae'r rhaglen hon yn dod â phartneriaid trafnidiaeth, iechyd ac addysg at ei gilydd i gyflawni nodau a rennir.

Enghraifft arall o waith i hyrwyddo teithio llesol ar draws sectorau gwahanol yw’r rhaglen Siarter Teithio Iach, sy’n annog sefydliadau a busnesau ledled Cymru i ymrwymo i nifer o ymrwymiadau i gefnogi eu staff ac ymwelwyr i gerdded a beicio mwy.

Rôl ddatblygol Trafnidiaeth Cymru yn rhan o’r trefniadau cyflenwi ar gyfer teithio llesol.

Rydym yn cefnogi rôl ddatblygol Trafnidiaeth Cymru o ran darparu teithio llesol ac rydym wedi gweithio’n gynhyrchiol gyda Trafnidiaeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae mewn sefyllfa dda i ddarparu’r system drafnidiaeth integredig sydd ei hangen ledled Cymru, gan alluogi pobl i deithio’n llesol a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mewn ffordd mor ddidrafferth â phosibl. Croesewir ffocws Trafnidiaeth Cymru ar newid ymddygiad, gan fod angen inni ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i sicrhau bod dulliau teithio’n newid. Teimlwn fod cyfle ar gyfer cydweithio agosach rhwng Trafnidiaeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn enwedig o ran newid ymddygiad a gwerthuso.

Ar gyfer ceisiadau cynllunio mawr, dylid annog Trafnidiaeth Cymru i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau. Bydd hyn yn sicrhau bod teithio llesol yn cael ei ddarparu’n effeithiol ac yn briodol i fodloni gofynion penodol y datblygiad, gan gyfrannu hefyd at y cynllun cyflenwi teithio llesol ehangach ar gyfer yr ardal. 

Rôl a gweithgareddau Bwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Rydym yn aelod gweithgar o’r Bwrdd Teithio Llesol a’i is-grŵp, y Grŵp Teithio Llesol i’r Ysgol. Teimlwn fod y Bwrdd Teithio Llesol yn fforwm effeithiol ar gyfer trafod materion strategol pwysig a dwyn rhanddeiliaid allweddol i gyfrif. Mae rôl yr aelodau annibynnol yn bwysig o ran darparu’r gwaith craffu annibynnol hwnnw. 

Gwariant teithio llesol Llywodraeth Cymru a sut y caiff ei ddosbarthu a’i flaenoriaethu rhwng cynlluniau gwahanol a mathau gwahanol o ymyriadau.

Mae ymyriadau sy'n cyfuno newidiadau seilwaith â rhaglenni cymdeithasol/ymddygiadol yn cael mwy o effaith. Felly, dylai polisïau integreiddio newidiadau amgylcheddol a seilwaith er mwyn gwneud teithio llesol yn fwy derbyniol i’w fabwysiadu a’i gynnal, ochr yn ochr â mentrau newid ymddygiad. Mae peth ymchwil yn dangos pwysigrwydd ystyried effeithiolrwydd ymyriadau (cost fesul taith) ac yn dangos bod ymyriadau refeniw fel arfer yn fwy effeithiol yn y tymor byr. Ond gall newidiadau gweladwy mewn canlyniadau waethygu’n gyflymach, tra bod ymyriadau cyfalaf fel arfer yn cymryd mwy o amser i’w gweithredu ond nad ydynt yn gwaethygu os cânt eu cynnal ar y lefel ofynnol.  Mae cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru yn dangos rhywfaint o gysoni â'r sylfaen dystiolaeth bresennol, yn enwedig os cynhelir buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith er mwyn parhau i ddarparu rhwydweithiau o ansawdd uchel. Er hynny, mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu, os caiff cyllid seilwaith craidd (h.y. y Gronfa Teithio Llesol) ei leihau, byddai angen ail-gyfrifo’r gyfran orau o wariant refeniw a byddai angen iddi fod yn sylweddol uwch na'r 'llinell sylfaen' neu fuddsoddiad refeniw teithio llesol blaenorol.

Lle bo’n bosibl, gellid defnyddio gwaith monitro buddion y gwariant cyfun ar gynlluniau teithio llesol/ymyriadau a gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus (yn enwedig gwasanaethau bysiau) i nodi lle mae gwerth gorau am arian yn cael ei gyflawni.  Yn ddelfrydol, dylai hyn gynnwys ystyried y manteision iechyd sy’n gysylltiedig â mwy o weithgarwch corfforol (o deithio llesol), gwell ansawdd aer a gwell amwynder. 

 

I ba raddau y mae awdurdodau lleol yn blaenoriaethu teithio llesol a buddsoddiad cysylltiedig, cyfyngiadau capasiti, ac effeithiau posibl o bwyslais cynyddol ar gynllunio trafnidiaeth rhanbarthol.

Wrth ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, rhaid iddynt fod yn gysylltiedig ag Arfarniad Llesiant Integredig fel sy’n ofynnol gan Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) 2022. Os cânt eu cynnal yn gadarn, dylai’r gwerthusiadau hyn asesu pa mor effeithiol (a theg) y mae teithio llesol yn cael ei integreiddio yn y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol. Yn rhan o broses ailadroddol, dylent hefyd roi adborth ar ble efallai bod angen symud blaenoriaethau yn y cynlluniau trafnidiaeth er mwyn eu gwneud yn fwy cydnaws â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021: Llwybr Newydd, sy’n rhoi blaenoriaeth i gerdded a beicio ar frig yr hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy. Gan mai lefel ranbarthol yw’r cynlluniau trafnidiaeth hyn, nid yw’r manylion ynghylch sut y cyflawnir targedau a mentrau teithio llesol ar lefel leol wedi’u cynnwys. Fodd bynnag, mae gofyn bod cynllun monitro a gwerthuso manwl i gyd-fynd â chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, a dylai’r rhain gynnwys darpariaeth ac effeithiolrwydd mentrau teithio llesol a seilwaith ar lefelau lleol.   

Beth yw’r ffordd orau i ysgogi newid ymddygiad er mwyn cefnogi teithio llesol, a’r rhwystrau presennol?

Fel y nodwyd yn gynharach yn yr ymateb hwn, mae ymyriadau sy’n cyfuno newidiadau seilwaith â rhaglenni cymdeithasol/ymddygiadol yn cael mwy o effaith ar deithio llesol. Felly, dylai polisïau integreiddio newidiadau amgylcheddol a seilwaith er mwyn gwneud teithio llesol yn fwy derbyniol i’w fabwysiadu a’i gynnal, ochr yn ochr â mentrau newid ymddygiad. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell defnyddio ac integreiddio gwyddor ymddygiad yn fwy wrth gynllunio a gweithredu mentrau ac ymyriadau teithio llesol, yn enwedig ar gyfer prosiectau gwariant refeniw a deall y rhwystrau a hwylusydd canfyddedig a real i deithio llesol. Er enghraifft, mae llawer o unigolion yn bwriadu cymryd rhan mewn teithio llesol ond yn methu â gweithredu oherwydd rhagfarnau fel rhagfarn y status quo neu ragfarn bresennol. Mae dulliau ymddygiadol yn helpu i bontio'r bwlch 'bwriad i ymddygiad' hwn trwy ganfod dealltwriaeth fanwl o'r rhwystrau trwy broses diagnosis ymddygiadol, cyn nodi opsiynau ymyrraeth posibl i helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar faterion newid ymddygiad, gan gynnwys drwy swydd ar y cyd, ond nid oedd y ffocws ar deithio llesol. Byddai gennym ddiddordeb mewn gwella’r cydweithio hwn i ddatblygu dull gwyddor ymddygiad o safbwynt teithio llesol yng Nghymru. 

Mae'r rhwystrau i gerdded a beicio yn amrywiol ac yn amrywio ymhlith unigolion. Ar gyfer beicio, mae'r rhwystrau a nodir amlaf yn cynnwys pryderon diogelwch, diffyg hyder, mannau storio beiciau diogel annigonol mewn cyrchfannau, a thywydd garw. Gall mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn drwy ymyriadau wedi’u targedu fynd i’r afael â phob elfen o’r model COM-B o newid ymddygiad: gwella gallu, darparu cyfleoedd, a chynyddu cymhelliant i unigolion fabwysiadu dulliau teithio mwy llesol. Fe wnaethom gomisiynu gwaith mewnwelediad i archwilio agweddau rhieni at deithio llesol i’r ysgol a chanfod ystod o ffactorau sy’n effeithio ar b’un a yw rhieni’n annog a/neu’n caniatáu i’w plant gerdded, beicio a mynd ar sgwter i’r ysgol. Defnyddiwyd y canfyddiadau o’r mewnwelediad i ddatblygu ystod o adnoddau marchnata cymdeithasol, gan roi’r rhain ar brawf ar lefelau cenedlaethol a lleol. Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg staff yn 2023 sy’n archwilio mater teithio llesol i’r gwaith. Ers hynny mae wedi darparu deg grŵp ffocws gyda staff i archwilio rhwystrau i fabwysiadu teithio llesol, iachach, a pha gymorth y gallwn ei roi ar waith i oresgyn y rhain. 

Sicrhau bod teithio llesol yn hygyrch ac yn gynhwysol, gan gynnwys ynghylch dylunio’r cynllun.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn credu ei bod yn hanfodol sicrhau bod teithio llesol yng Nghymru yn hygyrch ac yn gynhwysol, er mwyn sicrhau bod anghydraddoldebau iechyd (gan gynnwys cyfleoedd i fod yn egnïol) yn cael eu culhau yn hytrach na’u hehangu. Mae’n bwysig bod egwyddorion cynllunio’n sicrhau bod seilwaith teithio llesol yn hygyrch i bawb, gan gynnwys pobl ag anableddau, oedolion hŷn, a theuluoedd â phlant ifanc.

Mae'n bwysig bod grwpiau cymunedol amrywiol yn cymryd rhan yn y broses cynllunio a dylunio, er mwyn sicrhau bod anghenion yr holl ddefnyddwyr yn cael eu hystyried a'u diwallu. Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid (yn enwedig grwpiau agored i niwed a difreintiedig) i ddeall profiadau bywyd, anghenion a dymuniadau cymunedau lleol yn hanfodol i sicrhau bod seilwaith teithio llesol yn hygyrch, yn gynhwysol, ac yn wirioneddol addas i’r diben. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod y seilwaith nid yn unig yn weithredol ond hefyd yn rhywbeth y mae cymunedau y mae'n eu gwasanaethu ei eisiau. 

Mae angen inni sicrhau bod llwybrau teithio llesol wedi’u hintegreiddio’n dda â thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys darparu llwybrau hygyrch i arosfannau bysiau a gorsafoedd trên, yn ogystal â sicrhau bod modd i gyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus ddelio â beiciau, sgwteri symudedd, pramiau a chadeiriau gwthio. 

 

Gwella monitro a gwerthuso a chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer casglu data gwell drwy Arolwg Teithio Cenedlaethol newydd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu sefydlu’r Arolwg Teithio Cenedlaethol a chyhoeddiad diweddar y Fframwaith Monitro Teithio Llesol...

Mae creu diwylliant o werthuso trwyadl ar draws y system gyda’r nod o wella teithio llesol yng Nghymru yn rhan annatod o'r broses o nodi beth sy'n gweithio, ac os a sut y gellir ei ddyblygu mewn meysydd eraill. Dylid cynnal gwerthusiadau o brosesau a chanlyniadau er mwyn sicrhau ein bod yn deall sut roedd prosiect neu ymyriad teithio llesol yn gweithio a pha effaith a gafodd ar ymddygiad teithio llesol. Bydd datblygu fframwaith gwerthuso teithio llesol safonol yn cyflwyno amrywiaeth o fanteision a fydd yn ein helpu i wneud cymariaethau mwy cywir rhwng yr holl weithgarwch teithio llesol sy'n cael ei gyflawni ledled Cymru.

Unrhyw faterion eraill sy’n peri pryder mewn perthynas â chyflawni uchelgeisiau teithio llesol Llywodraeth Cymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru o’r farn y dylid adolygu buddsoddiad teithio llesol y pen o bryd i’w gilydd yn unol â’r sylfaen dystiolaeth, er mwyn sicrhau bod y cynlluniau a’r ymyriadau a nodir yn y Cynllun Cyflenwi Teithio Llesol yn cael eu gweithredu a’u mabwysiadu’n llwyddiannus. 

 

 

 

 

References:

[1]Mindell J and Watkins S (editors). Advances in transport policy and planning. Health on the move 3: The reviews. Volume thirteen. Cambridge: Elsevier; 2024.

 

[2]Aldred, R. and Lawlor, E. (2024) Report on the second stage of the process evaluation of the Active Travel Fund Tranche 2, Report to Department for Transport.

 

[3]Sloman L, Cairns S, Green A, Hopkinson L and Perrotta F. CWIS Active Travel Investment Models: Model structure and evidence base. UK. Transport for Quality of Life and ARUP Aecom Consortium; 2019

 

[4]Llwybr Newydd. The Wales Transport Strategy, 2021/ Welsh Transport Appraisal Guidance (WelTAG), 2022.

 

[5]Brunel University London. Evidence Brief. Behaviour Change for Active Travel. London. Brunel University London; 2024.

 

[6]Timmons S, Andersson Y, McGowan F and Lunn P. Using Behavioural Science to Design and Implement Active Travel Infrastructure: A Narrative Review of Evidence. Economic and Social   Institute. 2023; 1-44.